Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau

Sut ydw i'n gwneud apwyntiad? 

Gallwch ffonio neu alw heibio'r Feddygfa unrhyw bryd yn ystod yr oriau agor i drefnu apwyntiad i weld meddyg neu nyrs practis. Gallwch hefyd ofyn am apwyntiad di-frys yn ddigidol trwy'r gwasanaeth eConsult ar dudalen flaen ein gwefan.   

 

Ymgyngoriadau 

Mae ymgyngoriadau ar gael wyneb yn wyneb, dros y ffôn, ac yn ddigidol trwy'r wefan gan ddefnyddio eConsult. Dan gyfarwyddyd y meddygon teulu, mae staff ein derbynfa wedi'u hyfforddi i ofyn set o gwestiynau i chi ynglŷn â'ch problem fel y gallant gynnig y math mwyaf addas o apwyntiad ar eich cyfer, neu eich cyfeirio at y Gofal Sylfaenol mwyaf priodol neu'r gwasanaeth mwyaf priodol a gynigir gan y Bwrdd Iechyd i ddiwallu eich angen, megis eich fferyllfa leol.  

 

Apwyntiadau ymlaen llaw 

Gallwch drefnu apwyntiad gyda'r meddyg neu'r nyrs hyd at bedair wythnos ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn trwy ffonio'r Feddygfa yn ystod yr oriau agor neu drwy gyflwyno cais trwy'r wefan gan ddefnyddio eConsult. Os ydych am drefnu apwyntiad ymlaen llaw, mae fel arfer yn well ffonio ar ôl 10am pan fo'r llinellau ffôn yn llai prysur.  

 

Apwyntiadau ar yr Un Diwrnod/Drannoeth/Apwyntiadau Brys 

Os ydych o'r farn bod angen i chi gael eich gweld ar yr un diwrnod, neu os yw eich problem yn un frys, dylech ffonio'r Feddygfa cyn gynted â phosibl. Byddwn naill ai'n trefnu apwyntiad i chi ddod i mewn, neu'n trefnu i'r meddyg roi galwad ffôn brysbennu i chi. Bydd plant o dan 16 oed sydd â phroblem acíwt yn cael cynnig apwyntiad ar yr un diwrnod.  

 

Apwyntiadau – Cadw neu Ganslo 
Gofynnir i chi wneud pob ymdrech i ddod i unrhyw apwyntiad a gynigir gan y Feddygfa ar gyfer clinigau iechyd gan fod y rhain yn hanfodol i'ch cynllun iechyd. Gofynnir i chi hefyd sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i'r Feddygfa os na allwch ddod i unrhyw apwyntiad a drefnwyd ymlaen llaw, fel y gellir ei gynnig i glaf arall. 

 
Sut ydw i'n gofyn am ymweliad cartref? 

Os ydych yn gaeth i’ch cartref neu’n rhy wael i allu dod i’r feddygfa, gofynnir i chi ffonio mor gynnar â phosibl yn y bore i ofyn am ymweliad cartref. 

Bydd eich cais yn cael ei asesu gan y meddyg teulu yn seiliedig ar angen clinigol.