Neidio i'r prif gynnwy

Cwynion

Os bydd gennych unrhyw reswm i deimlo'n anfodlon ar y gwasanaeth a ddarparwn, yna hoffem glywed gennych.  

Yn y lle cyntaf, gofynnwch am gael siarad â Rheolwr y Practis. Os ydych o'r farn bod cwyn ffurfiol yn ofynnol, yna dylid gwneud y gŵyn yn ysgrifenedig i Reolwr y Practis, a fydd yn cydnabod bod y gŵyn wedi dod i law ac yn ymchwilio i'r mater.  

Os na fyddwch yn fodlon ar y modd yr ymdrinnir â'ch cwyn, neu os ydych yn teimlo bod pwnc y gŵyn yn rhy ddifrifol i'w drafod â'r practis, yna mae gennych yr hawl i gyflwyno eich cwyn i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, a fydd yn ymchwilio ymhellach i'r mater.  

 

Cysylltu â Thîm y Gwasanaethau Cymorth Cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 

 

Ffôn:  0300 0200 159 
E-bost: hdhb.patientsupportservices@wales.nhs.uk 
Post: Rhadbost Adborth @ Hywel Dda 

 

Os ydych angen cymorth i godi pryder, gall Llais – eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol eich helpu i wneud hyn.

Mae Llais yn gorff annibynnol ac mae ei gwasanaeth eiriolaeth am ddim yn gallu darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i aelodau o'r cyhoedd sydd am godi pryder.

Gall Llais eich cynorthwyo i godi pryder a rhoi cyngor ar y camau mwyaf priodol i'w cymryd.

Gallwch gysylltu â swyddfa leol Llais drwy’r cyfeiriad canlynol:

 

Cysylltu â Llais 

 
Cyfeiriad: Llais – Gorllewin Cymru, Adeiladau’r Llywodraeth, Teras Picton, Caerfyrddin, SA31 1BT

Ffôn:  01646 697610 
E-bost: westwalesadvocacy@llaiscymru.org  
Gwefan:  Codi pryder am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol | Llais