Darperir gwasanaethau y Tu Allan i Oriau gan Hywel Dda dros nos rhwng 6:30pm ac 8:00am, yn ogystal ag ar unrhyw adeg dros y penwythnos ac ar wyliau banc.
Os oes arnoch angen cyngor brys neu os oes angen i chi weld meddyg rhwng yr amseroedd hyn, ffoniwch 111. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer problemau brys yn unig.
I siarad ag Ymarferydd Iechyd Meddwl unrhyw bryd, ffoniwch 111 a dewiswch Opsiwn 2. Comisiynir y gwasanaeth hwn gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae gwefan GIG 111 Cymru ar gael 24/7 i gynnig amrywiaeth eang o gyngor a gwybodaeth feddygol a deintyddol ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru: