Os bydd gennych unrhyw reswm i deimlo'n anfodlon ar y gwasanaeth a ddarparwn, yna hoffem glywed gennych.
Yn y lle cyntaf, gofynnwch am gael siarad â Rheolwr y Practis. Os ydych o'r farn bod cwyn ffurfiol yn ofynnol, yna dylid gwneud y gŵyn yn ysgrifenedig i Reolwr y Practis, a fydd yn cydnabod bod y gŵyn wedi dod i law ac yn ymchwilio i'r mater.
Os na fyddwch yn fodlon ar y modd yr ymdrinnir â'ch cwyn, neu os ydych yn teimlo bod pwnc y gŵyn yn rhy ddifrifol i'w drafod â'r practis, yna mae gennych yr hawl i gyflwyno eich cwyn i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, a fydd yn ymchwilio ymhellach i'r mater.
Ffôn: 0300 0200 159
E-bost: hdhb.patientsupportservices@wales.nhs.uk
Post: Rhadbost Adborth @ Hywel Dda
Os oes arnoch angen cymorth i fynegi pryder, gall Llais – eich llais o ran iechyd a gofal cymdeithasol, eich helpu i wneud hyn. Mae Llais yn gorff annibynnol, a gall ei wasanaeth Eirioli rhad ac am ddim ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i aelodau o'r cyhoedd sydd, o bosibl, am fynegi pryder. Gall Llais eich cefnogi i fynegi pryder a rhoi cyngor ar y camau gweithredu mwyaf priodol.
Cyfeiriad: Gwasanaeth Eirioli, Llais – Gorllewin Cymru, Ystafell 5, Y Llawr Cyntaf, Tŷ Myrddin, Heol yr Hen Orsaf, Caerfyrddin, SA31 1BT
Ffôn: 01646 697610
E-bost: westwalesadvocacy@llaiscymru.org
Gwefan: www.llaiscymru.org