Mae yna fynediad rhwydd i'r feddygfa yn Solfach, gyda chyfleusterau parcio i’r anabl o flaen yr adeilad a ramp yn syth at y drws ffrynt. Mae gwell system oleuo, dolenni sain sefydlog a chludadwy, desg Dderbynfa isel ac arwyddion clir yn sicrhau mynediad rhwydd at yr holl gyfleusterau. Mae toiled i'r anabl ac ynddo ddolenni cydio wedi'i leoli yng nghyntedd y fynedfa.
Yn anffodus, nid oes parcio i gleifion yn y feddygfa gangen yn Shalom, yng Nhyddewi, gan fod hyn wedi'u cadw ar gyfer cleifion Gofal Lliniarol. Dylai cleifion sydd angen parcio i'r anabl archebu i fynychu'r feddygfa yn Solfach, lle mae hyn wedi'i ddarparu'n dda.
Os oes gennych anabledd, ac os oes gennych anghenion ychwanegol, mae croeso i chi siarad ag aelod o staff y dderbynfa, a fydd yn fwy na pharod i helpu. Fel arall, gallech ofyn am gael siarad â Rheolwr y Practis i drafod unrhyw anawsterau personol.