Ymdrinnir â phob Cofnod Iechyd y Claf yn gyfrinachol. Mae'r staff a'r ymarferwyr yn y Feddygfa a all gyrchu eich cofnodion iechyd y claf wedi cael hyfforddiant ar gyfrinachedd a diogelu data, ac mae yna bolisïau, rheolaethau a systemau mewnol ar waith i sicrhau y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser.
Er mwyn darparu eich gofal iechyd a rheoli ein systemau a'n gwasanaethau gofal iechyd, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth berthnasol amdanoch ag adrannau mewnol a sefydliadau allanol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch gofal (megis llythyrau atgyfeirio i'r Ysbyty), ag adrannau mewnol a sefydliadau allanol sy'n monitro ac yn archwilio ein gwasanaethau, â'r heddlu neu'r lluoedd diogelwch at ddibenion atal a chanfod trosedd a/neu weithgaredd twyllodrus, ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd. At hynny, mae'n rhaid i bob sefydliad yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth ag ef gydymffurfio ag egwyddorion diogelu data a chyfrinachedd.
O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych chi, yr unigolyn, hawliau y gallwch eu harfer mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Gallwch arfer eich hawliau o ran gwybodaeth neu wneud cais i gael mynediad at unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch ar unrhyw adeg. Rhaid gwneud ceisiadau i gael mynediad at eich gwybodaeth yn ysgrifenedig i Reolwr y Practis. Dylech ddarparu digon o wybodaeth i ni eich adnabod, ac, o ran cofnodion meddygol, y cyfnod amser neu'r driniaeth benodol yr ydych am gael cofnodion ar eu cyfer.
Gallwch gyrchu ein hysbysiad a pholisi preifatrwydd llawn yma Gwybodaeth Preifatrwydd neu drwy gysylltu â Rheolwr y Practis yn y Feddygfa i ofyn am gopi papur.