O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA 2018), mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu harfer mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Gallwch arfer eich hawliau gwybodaeth neu wneud cais i gael mynediad at unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch ar unrhyw adeg. Rhaid gwneud ceisiadau i gael mynediad at eich gwybodaeth yn ysgrifenedig i'r Rheolwr Practis. Dylech ddarparu digon o wybodaeth i adnabod eich hun, ac o ran cofnodion meddygol, y cyfnod amser neu'r driniaeth benodol yr ydych am gael cofnodion ar ei gyfer.