Neidio i'r prif gynnwy

Archebu cludiant i'r ysbyty

Darperir Gwasanaethau Cludiant Ysbyty i helpu cleifion i gyrraedd eu hapwyntiad ysbyty neu glinig.  Dylai cleifion sydd angen cludiant ambiwlans i fynd i'w hapwyntiad ysbyty cyntaf drefnu eu cludiant i'r ysbyty'n uniongyrchol trwy Ganolfan Archebu Trafnidiaeth.  Dylid archebu cludiant ar gyfer pob apwyntiad arall yn yr ysbyty pan fyddwch yn mynychu ar gyfer eich apwyntiad.

Mae hwn yn wasanaeth ar wahân i'r gwasanaeth ambiwlans brys - os oes angen ambiwlans arnoch am argyfwng meddygol dylech ffonio 999 bob amser.

Pan fyddwch yn derbyn eich llythyr apwyntiad cyntaf gan yr ysbyty, dylech gysylltu â'r Ganolfan Archebu Cludiant ar:

Ffôn: 0300 1232 303

Cofiwch – os bydd eich apwyntiad yn cael ei newid am unrhyw reswm, dywedwch wrth y Ganolfan Archebu Trafnidiaeth.

Mae gwybodaeth ar-lein am gludiant ysbyty ar gael drwy'r ddolen ganlynol:

Archebu cludiant i'r ysbyty