Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dod i gytundeb dros dro gydag Ymddiriedolwyr Tŷ Shalom.
Bydd y feddygfa gangen dan arweiniad nyrsys yn Nhŷ Shalom yn aros ar agor am dri mis arall, tan 31 Mawrth 2026.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolwyr Tŷ Shalom am eu hyblygrwydd wrth gytuno i'r estyniad hwn.
Yn dilyn y cyhoeddiad gan Dŷ Shalom y bydd yr elusen yn cau ei busnes ddiwedd mis Hydref 2025, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) mewn trafodaethau gweithredol gyda'r elusen ynghylch dyfodol y feddygfa gangen i Meddygfa’r Penrhyn sy'n gweithredu o'r lleoliad ar Stryd Nun yn Nhyddewi.
Bydd y Practis yn newid i system glinigol newydd ar 02/09/25. O ganlyniad, ni fyddwn yn gallu cael gafael ar unrhyw agwedd o'ch cofnodion meddygol o 6pm ar ddydd Mercher 27eg Awst. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gweithredu ar wasanaeth o lefel isel iawn a bydd gennym y gallu i ddelio ag achosion brys yn unig.