Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dod i gytundeb dros dro gydag Ymddiriedolwyr Tŷ Shalom.
Bydd y feddygfa gangen dan arweiniad nyrsys yn Nhŷ Shalom yn aros ar agor am dri mis arall, tan 31 Mawrth 2026.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolwyr Tŷ Shalom am eu hyblygrwydd wrth gytuno i'r estyniad hwn.
Mae hyn yn golygu y bydd y feddygfa gangen yn parhau i ddarparu gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwn. Mae cangen Shalom yn cynnig gwasanaethau dan arweiniad nyrsys ar foreau dydd Llun i ddydd Gwener, profion gwaed yn bennaf, ac mae'n benodol ar gyfer cleifion sy'n methu teithio i Solfach.
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau pellach. Diolch am eich cefnogaeth barhaus.