Bydd y Practis yn newid i system glinigol newydd ar 02/09/25. O ganlyniad, ni fyddwn yn gallu cael gafael ar unrhyw agwedd o'ch cofnodion meddygol o 6pm ar ddydd Mercher 27eg Awst. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gweithredu ar wasanaeth o lefel isel iawn a bydd gennym y gallu i ddelio ag achosion brys yn unig.
Ni fydd ein gwasanaethau ar-lein fel e-consult a'r Ap GIG Cymru ar gael yn ystod y cyfnod yma.
Os yw eich bresgripsiynau rheolaidd yn ddyledus yn yr wythnos sy'n dechrau ar ddydd Llun 25ain Awst (Dydd Llun Gwyl Banc) a dydd Mercher 3ydd Medi, gofynnwn i chi roi eich cais cyn dydd Mawrth 26ain Awst. Os oes gennych ddigon o feddyginiaeth i'ch cynnal, gofynnwch ar ôl 3ydd Medi. Sylwch na fyddwn yn gallu gael gafael ar eich nodiadau a chynnig bresgripsiynau rheolaidd yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd y traws newidiad hwn yn achosi pwysau ychwanegol ar bob aelod o staff a phob claf, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a allai godi.