Diweddariad 18 Mawrth 2026 – Cangen Meddygfa Penrhyn yn Nhŷ Shalom
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Ymddiriedolwyr Tŷ Shalom wedi cytuno ar estyniad prydles tymor byr pellach ar gyfer y feddygfa gangen yn Nhyddewi.
Mae'r estyniad newydd hwn yn golygu y bydd cleifion Meddygfa Penrhyn yn gallu parhau i gael mynediad at wasanaethau o Dŷ Shalom tan 30 Mehefin 2026. Mae'r feddygfa gangen yn cynnig gwasanaethau dan arweiniad nyrsys ar foreau dydd Llun i ddydd Gwener, yn bennaf profion gwaed; bydd angen i bob claf sy'n dymuno gweld Meddyg Teulu barhau i fynychu prif safle Meddygfa Penrhyn yn Solfach.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn parhau i fod yn ddiolchgar i Ymddiriedolwyr Tŷ Shalom am eu hyblygrwydd a'u cefnogaeth barhaus.